Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Rhagfyr 2023
Amser:
14.00 -
16.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13582
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Joel James AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
Adam Cooper, Greenbelt Professor Cristina Leston-Bandeira, Prifysgol Leeds Colin Thomson, Greenbelt Robin Waddell, Greenbelt |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Masudah Ali (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.
Clywodd y Pwyllgor ganfyddiadau ymchwil am y rhwystrau i ymgysylltu â seneddau gan yr Athro Cristina Leston-Bandeira.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Robin Waddell, Cyfarwyddwr Datblygu Greenbelt, Adam Cooper, Cyfarwyddwr Cyfreithiol Grŵp Greenbelt a Colin Thomson, Rheolwr Gyfarwyddwr Greenbelt.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes y bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan y Gweinidog yn dilyn casgliad y broses Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes y bydd canlyniad yr ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gael.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor a chytunodd i ofyn am ddiweddariad ar y mater ymhen 12 mis.
Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi cwrdd â'r deisebydd yn y gorffennol ynglŷn â mater ar wahân.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ddarparu sylwadau’r deisebwyr ac i ofyn am ymateb i’r cwestiynau a godwyd.
Cytunodd yr Aelodau hefyd i ofyn i'r gwasanaeth ymchwil a oes cynlluniau i ddefnyddio bathodynnau glas fel dull adnabod i bleidleisio mewn etholiadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod ymateb y Gweinidogion i’r Pwyllgor yn glir ac nid ydynt yn cefnogi moratoriwm. Daeth yr Aelodau i'r casgliad, yng ngoleuni hyn, na allai'r Pwyllgor fynd â'r mater a godwyd yn y ddeiseb ymhellach a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Datganodd Jack Sargeant AS a Peredur Owen Griffiths AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'r ddau ohonynt yn adnabod y deisebydd.
Cyfeiriodd Peredur Owen Griffiths AS bobl at ei ddatganiad buddiannau hefyd a'i fod wedi bod ar seminar wythnos waith pedwar diwrnod â thâl o'r blaen.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros nes y bydd gwaith yr is-grwpiau wedi dod i ben ar y mater hwn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac estynnodd ddiolch i Tassia am ei hymgysylltiad parhaus â’r Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog er mwyn cael eglurhad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Rhwydwaith Canser ac i ofyn am ymateb i’r sylwadau pellach a godwyd gan Tassia.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i rannu cwestiynau pellach y deisebydd ac i ofyn am ymateb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniad ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar fynediad cyfartal at addysg a gofal plant i blant a phobl ifanc anabl, ac aros am ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymchwiliad, cyn ystyried a yw'r materion a godwyd yn y ddeiseb wedi cael sylw.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd ei siom ynghylch y diffyg cynnydd ers cau’r ysbyty’n gynharach eleni ar 13 Ebrill. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn gofyn am ddiweddariad chwarterol ar ba gamau a gymerwyd i recriwtio staff, a gofyn am ymateb i'r cwestiynau pellach a ddarparwyd gan y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a nododd ganlyniad cadarnhaol y ddeiseb. Diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd, y rhai a lofnododd y ddeiseb ac ymgyrchwyr lleol am eu cefnogaeth i'r ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb.
Wrth gloi'r ddeiseb, roedd y Pwyllgor yn dymuno cofio Ashley Rogers ac eraill sydd wedi colli eu bywydau’n drasig ar y gyffordd hon ac anfonwyd eu cydymdeimlad at eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u hanwyliaid.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â’r ddeiseb P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn. Yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Busnes, cytunodd yr Aelodau, os bydd yr atebion i gwestiynau a godir ynghylch y ddau ddeisebydd yn cael eu canfod yn y gwaith craffu ar y gyllideb, yna bydd y cais am ddadl yn cael ei dynnu'n ôl.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn dwyn y ddwy ddeiseb i'w sylw a gofyn iddynt ystyried y materion a godwyd yn y ddwy ddeiseb yn eu gwaith craffu ar y gyllideb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â deiseb P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â’r hyn sydd ar gael yn Lloegr.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn. Yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Busnes, cytunodd yr Aelodau, os bydd yr atebion i gwestiynau a godir ynghylch y ddau ddeisebydd yn cael eu canfod yn y gwaith craffu ar y gyllideb, yna bydd y cais am ddadl yn cael ei dynnu'n ôl.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn dwyn y ddwy ddeiseb i'w sylw a gofyn iddynt ystyried y materion a godwyd yn y ddwy ddeiseb yn eu gwaith craffu ar y gyllideb.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunwyd y byddai’n cyhoeddi adroddiad ar y dystiolaeth a glywyd yn ymwneud â’r ddeiseb hon.